Agenda Cynhadledd Menywod mewn Swyddi Plismona Uwch 2026
| 9:00 AM - 10:55 AM | Cofrestru, Lluniaeth a Rhwydweithio Yn yr arddangosfa | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
| 10:55 AM - 11:05 AM | Croeso a Chymhennu | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
| 11:05 AM - 11:20 AM | Araith Agoriadol | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
| 11:20 AM - 11:30 AM | Agoriad y Rhwydwaith Menywod mewn Swyddi Plismona Uwch | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
| 11:30 AM - 11:55 AM | Troi Trasiedi yn Newid Bydd Carolyn yn rhannu ei stori bersonol ei hun, a arweiniodd hi i fyd gwleidyddiaeth ac a ffurfiodd sail ei hymgyrch gyntaf fel AS – Cronfa Angladdau Plant. Bydd hi hefyd yn sôn am rai o'i hymgyrchoedd eraill yn ystod ei 11 mlynedd yn y Senedd. | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
| 11:55 AM - 12:45 PM | Dim Lwfans Gwallau: Penderfyniadau, Ymddiriedaeth a Gwaith Tîm Dan Bwysau Mae John yn mynd â chynulleidfaoedd ar daith i ogofâu dwfn a thywyll Gwlad Thai. Mae'r deifiwr ogofâu profiadol yn adrodd y stori am sut y daeth o hyd i dîm pêl-droed y 'Wild Boar' a chysylltu â nhw am y tro cyntaf, yn ddwfn yn ogof Tham Luang, ac yn egluro cymhlethdodau'r broses o'u tynnu allan. | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
| 12:45 PM - 1:45 PM | Cinio a Rhwydweithio | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
| 1:45 PM - 2:45 PM | Sesiwn Panel – Ailddiffinio Arweinyddiaeth ar gyfer y Dyfodol PG Amanda Blakeman KPM - Heddlu Gogledd Cymru PSG Gillian Routledge - Heddlu Swydd Gaerhirfryn Elizabeth Grant - Gweinyddiaeth Amddiffyn y DU Bydd y sesiwn yn archwilio arweinyddiaeth weladwy, herio stereoteipiau traddodiadol am arweinyddiaeth, symud menywod i rolau uwch, bod yn gynghreiriad, a chreu diwylliannau arweinyddiaeth mwy cynhwysol. Y nod yw cael sgwrs gadarnhaol sy'n edrych tuag at y dyfodol, ac sy'n canolbwyntio ar gynnydd, camau gweithredu ymarferol ac atebion. | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
| 2:45 PM - 3:15 PM | Arwain gyda Phwrpas: Creu Diwylliannau Lle Gall Pobl Ffynnu Bydd Cherry yn rhannu ei phrofiad o arwain y gwaith o drawsnewid diwylliant yn Esgobaeth Mynwy pan ddaeth yn esgob yno yn 2020, a sut mae hi erbyn hyn, yn ei rôl fel Archesgob Cymru, yn ceisio arwain trawsnewid tebyg yn yr Eglwys yng Nghymru gyfan. | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
| 3:15 PM - 3:45 PM | Lluniaeth a Rhwydweithio | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
| 3:45 PM - 4:15 PM | Trawsnewid Tirwedd y Sector Cyhoeddus O safbwynt Microsoft, mae'r sesiwn hon yn ymdrin â mabwysiadu AI a thueddiadau newydd ar draws y sector cyhoeddus: trawsnewid a arweinir gan ganlyniadau, ailgynllunio llif gwaith, cynnydd gan ddefnyddio cynorthwywyr i dimau asiantau dynol, ailsgilio'r gweithlu, a graddio llywodraethol drwy sylfeini data diogel, rheolaethau AI cyfrifol, a chynlluniau peilot mesuradwy sy'n dangos gwerth gweithredol cyn eu cyflwyno'n ehangach. | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
| 4:15 PM - 4:45 PM | Cynghreiriaeth | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
| 4:45 PM - 4:50 PM | Diwedd Diwrnod Un | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
| 6:30 PM | Gweithgaredd gyda'r Hwyr – Taith Goleuadau Nadolig Parc Bute Sicrhewch fod hyn yn cael ei ychwanegu at eich trefniant os hoffech ymuno â'r gweithgaredd hwn. | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
| 8:30 AM - 9:00 AM | Cofrestru, Lluniaeth a Rhwydweithio | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
| 9:00 AM - 9:05 AM | Croeso a Chymhennu | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
| 9:05 AM - 9:35 AM | Newid Meddyliau, Newid Diwylliant: Pŵer Adrodd Straeon mewn Sefydliadau | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
| 9:35 AM - 10:05 AM | Chwalu Rhwystrau: Sut mae Arweinwyr yn Llywio Diwylliant Plismona Teg ac Effeithiol | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
| 10:05 AM - 10:30 AM | Arwain Drwy Newid: Gwersi o Daith Arweinyddiaeth Bydd Rhuanedd yn rhannu ei thaith arwain, gan fyfyrio ar y profiadau a’r gwersi a’i helpodd i symud ymlaen i swyddi uwch-arweinyddiaeth. Drwy straeon o'i gyrfa, mae hi'n archwilio gwydnwch, hygrededd, positifrwydd ac arwain drwy newid, gan gynnig mewnwelediadau ymarferol i arweinwyr sy'n llywio’r gwaith o drawsnewid a llywio diwylliant sefydliadol. | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
| 10:30 AM - 11:00 AM | Lluniaeth a Rhwydweithio | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
| 11:00 AM - 11:45 AM | O Argyfwng i Atgyfodiad: Adferiad Diwylliannol | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
| 11:45 AM - 11:55 AM | Symud i Sesiynau Grŵp | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
| 11:55 AM - 12:45 PM | Sesiynau Grŵp 1. Herio'r Amhosibl Beth os mai'r unig beth sy'n sefyll rhyngoch chi a'r amhosibl yw'r ffordd rydych chi'n meddwl?
Bydd y sesiynau’n canolbwyntio ar archwilio sut y gallwn herio cyfyngiadau, goresgyn rhwystrau, a throi heriau sy'n ymddangos yn amhosibl yn gyfleoedd y gellir eu cyflawni. Mae'n ymwneud â newid meddylfryd, meiddio meddwl yn wahanol, croesawu posibiliadau a chael yr hyder i gymryd y cam cyntaf hwnnw y tu hwnt i'r hyn rydym yn credu y gallwn ei gyflawni.
Drwy ysbrydoliaeth, safbwyntiau newydd ac agwedd gadarnhaol, mae Leonie yn gobeithio eich helpu i ddarganfod nad yw 'amhosibl' bob amser yn golygu na ellir gwneud rhywbeth – weithiau, mae’n golygu nad ydych wedi ei wneud eto. | Sesiynau Grŵp 5. Deallusrwydd Addasu | Sesiynau Grŵp 3. Awgrymiadau ar gyfer y Wasg | Sesiynau Grŵp 2. Y Tu Hwnt i’r Siop Gaeedig: Cynrychiolaeth, Cynhwysiant a Dilyniant – Gwersi o blismona troseddau difrifol a chyfundrefnol (SOC) Yr Athro Sarah Charman - Prifysgol Portsmouth D/DA Gemma Blyth - Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion Heddlu Mae'r sesiwn ryngweithiol hon yn archwilio cynrychiolaeth, cynhwysiant a dilyniant drwy ymchwil ar blismona troseddau difrifol a chyfundrefnol. Bydd cyfranogwyr yn ystyried teithiau i mewn i rolau arbenigol, gan ddysgu gwersi ar gyfer arweinyddiaeth ar draws plismona. Bydd canfyddiadau ynghylch recriwtio a gyrfaoedd yn cael eu hategu gan ymchwil newydd ar fesur cynhwysiant, gan gynnwys profiadau swyddogion benywaidd yn benodol. | Sesiynau Grŵp 4. Datblygu’ch Hun Mae Datblygu’ch Hun yn weithdy diddorol sy'n annog myfyrdod, gan archwilio arddull arwain bersonol a hunanymwybyddiaeth. Trwy fyfyrio dan arweiniad, bydd cyfranogwyr yn nodi eu gwerthoedd craidd, eu cryfderau a’u hymddygiadau, gan gael mewnwelediad i’r hyn sy’n gwneud arweinydd effeithiol. Mae'r sesiwn hefyd yn archwilio diogelwch seicolegol, gan amlygu ei rôl hanfodol wrth feithrin ymddiriedaeth, llesiant, perfformiad ac arweinyddiaeth gynhwysol, ar gyfer arweinwyr a'u timau fel ei gilydd. | Sesiynau Grŵp 6. Pŵer Mentora PSC Lynette Falzone - Heddlu Fort Lauderdale/Cymdeithas Genedlaethol Gweithredwyr Benywaidd Gorfodi'r Gyfraith Sheryl D. Victorian, Ph.D - Adran Heddlu Waco Mae Pŵer Mentora yn galluogi arweinwyr benywaidd i feithrin cydberthnasau mentora sy'n cyflymu gyrfaoedd ac yn cryfhau sefydliadau. Mae cyfranogwyr yn dysgu sut i ddod o hyd i fentoriaid, mentora gyda bwriad, a datblygu eu hunain ar unrhyw gam o'u gyrfa. | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
| 12:45 PM - 1:45 PM | Cinio a Rhwydweithio | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
| 1:45 PM - 2:15 PM | Y Tu Hwnt i Wahaniaeth: Arweinyddiaeth Gynhwysol ar gyfer yr Heriau Yn y sesiwn ysbrydoledig a rhyngweithiol hon, bydd y Ditectif Brif Uwch-arolygydd Tanya Wilkins yn rhannu ei thaith bersonol ym myd yr heddlu, gan archwilio’r hyn a’i cymhellodd i ymuno â’r gwasanaeth, y rhwystrau y mae wedi’u goresgyn, a’r gwersi a ddysgwyd ar hyd y ffordd. Drwy ei phrofiadau, bydd Tanya yn archwilio arweinyddiaeth gynhwysol, heriau cyfredol o ran amrywiaeth o fewn plismona, a sut y gall arweinwyr helpu i lywio dyfodol tecach a mwy cynrychioliadol. | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
| 2:15 PM - 2:25 PM | Symud i Sesiynau Grŵp | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
| 2:25 PM - 3:15 PM | Ailadrodd Sesiynau Grŵp | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
| 3:15 PM - 3:45 PM | Lluniaeth a Rhwydweithio | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
| 3:45 PM - 4:05 PM | Cysylltu Cymunedau | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
| 4:05 PM - 4:55 PM | Mae Eich Enw’n Siarad Cyn i Chi Siarad: Adeiladu Eich Brand Arweinyddiaeth Bydd y cyflwyniad hwn yn archwilio sut mae brand personol, enw da, delwedd a chymeriad yn llywio hygrededd arweinyddiaeth. Bydd cyfranogwyr yn archwilio sut mae penderfyniadau bob dydd, cydberthnasau, cyfathrebu, perfformiad a phresenoldeb yn llywio canfyddiadau, yn meithrin gwelededd wrth aros yn ddilys, ac yn datblygu strategaethau ymarferol i amddiffyn, atgyweirio a chryfhau enw da arweinyddiaeth drwy gydol eu gyrfaoedd ym mhroffesiwn yr heddlu a thu hwnt. | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
| 4:55 PM - 5:00 PM | Cloi Cynhadledd Diwrnod Dau | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
| 7:00 PM - 7:45 PM | Derbyniad Diodydd cyn Cinio yn y Galerïau | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
| 7:45 PM - 9:30 PM | Cinio Gala yn y Neuadd Fawr | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
| 10:45 PM - 11:00 PM | Gorffen | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
| 8:30 AM - 9:00 AM | Cofrestru a Lluniaeth | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
| 9:00 AM - 9:05 AM | Croeso a Chymhennu | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
| 9:05 AM - 9:30 AM | Sgwrs gartrefol "I Wneud Cath yn Hapus, Ychwanegwch Ddŵr Oer!" O drochiadau lleol i ddyfroedd yr Antarctig, mae Cath Pendleton, Môr-forwyn Merthyr, yn rhannu uchafbwyntiau, isafbwyntiau a digrifwch ei hanturiaethau mewn dŵr oer. Dysgwch sut y arweiniodd nofio syml at groesi'r Sianel, Milltiroedd Iâ, cynrychioli Tîm Prydain, a dod y person cyntaf i gwblhau Milltir Iâ y tu fewn i Gylch Pegynol yr Antarctig. | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
| 9:30 AM - 10:00 AM | Mae Arweinwyr yn Creu Arweinwyr Drwy Weithredu Fel Gwylwyr Gweithredol: Trawsnewid Diwylliannau i Ddynion yn Bennaf yn Fannau Mwy Diogel i Ddioddefwyr a Goroeswyr Ased mwyaf plismona yw ei bobl, ac eto gall newid gael ei anwybyddu yng nghanol y galwadau dyddiol. Mae'r araith gyweirnod hon yn archwilio sut y gall Gwyliwr Gweithredol gyfarparu cydweithwyr i adnabod risg, herio ymddygiad niweidiol a chefnogi eraill drwy deyrngarwch beirniadol. Mae'n archwilio sut y gall arweinwyr greu diwylliannau lle disgwylir a chefnogir ymyrraeth gynnar, gan symud y tu hwnt i weithredoedd unigol o ddewrder i ymgorffori cyfrifoldeb a rennir ar draws timau, strwythurau arweinyddiaeth ac arfer proffesiynol, gan amddiffyn cydweithwyr, sefydliadau a'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
| 10:00 AM - 10:40 AM | Deall Diffygiad a Thrallod Moesol: Yr Allwedd i Ffynnu mewn Rôl Heriol Bydd y sesiwn hon yn ystyried ffactorau allweddol sy'n arwain at ddiffygiad, gan gynnwys pwy sydd mewn perygl a pham; sut y gallwn amddiffyn ein hunain rhag ddiffygiad, a sut y gall trallod moesol waethygu straen, gan chwarae rhan hollbwysig yn y rheswm pam mae pobl yn dioddef o ddiffygiad. | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
| 10:40 AM - 11:10 AM | Lluniaeth a Rhwydweithio | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
| 11:10 AM - 11:40 AM | Defnyddio’ch Pŵer Yn Effeithiol | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
| 11:40 AM - 12:40 PM | Yr Olwg o'r Talwrn: Dewrder, Dewisiadau a Dod yn Arweinydd y gallwch chi, a chi yn unig, fod | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
| 12:40 PM - 12:50 PM | Sylwadau Clo | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
| 12:50 PM | Cinio a Lluniaeth i Fynd | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
* Nodwch y gallai'r trefnwyr newid yr agenda unrhyw adeg



