Full Name
Graham Goulden
Speaker Bio
Mae Graham yn hyfforddwr profiadol ym maes arweinyddiaeth ac atal trais, ac yn gyn-swyddog heddlu yn yr Alban gyda 30 mlynedd o wasanaeth. Fel Prif Arolygydd gyda Uned Lleihau Trais yr Alban, helpodd i ddatblygu dulliau arloesol o atal trais, arweinyddiaeth ac ymyrraeth gadarnhaol. Ac yntau’n eiriolwr brwdfrydig dros y dull gwyliwr gweithgar, mae Graham yn darparu hyfforddiant ym meysydd plismona, addysg, gweithleoedd, chwaraeon, y fyddin a chywiro. Ar hyn o bryd, mae'n gweithio gyda rhaglen Gwyliwr Gweithredol Gorfodi'r Gyfraith (ABLE) yn yr UDA, yn cefnogi Arwyr yn Ymyrryd o fewn y systemau cywiro yn yr UDA ac Ewrop, ac yn cyflwyno ei raglen ymyrryd gan gymheiriaid, ASOne, gyda sefydliadau plismona yn y DU ac yn rhyngwladol, gan gynnwys Tiriogaethau Tramor Prydain. Mae Graham hefyd wedi cyflwyno rhaglenni ar gyfer timau chwaraeon, ac wedi helpu i wreiddio'r rhaglen Mentoriaid Atal Trais ar draws awdurdodau lleol yn yr Alban.
Speaking At
