Mae UNSAIN yn un o undebau llafur mwyaf y Deyrnas Unedig, sy'n cynrychioli gweithwyr ar draws gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys staff yr Heddlu, y Gwasanaethau Prawf a CAFCASS. Mae ein Cangen Heddlu, Gwasanaeth Prawf a CAFCASS De Cymru wedi ymrwymo i gefnogi aelodau drwy gyngor, cynrychiolaeth yn y gweithle, cyfleoedd dysgu a mentrau llesiant.

Rydym yn gweithio i sicrhau bod yr holl gyflogeion yn cael eu trin yn deg, bod ganddynt lais yn y gweithle a bod cymorth ar gael iddynt drwy gydol eu gyrfaoedd. Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn ganolog i bopeth a wnawn, ac rydym yn hyrwyddo cyfleoedd sy'n helpu menywod i ddatblygu, symud ymlaen ac arwain.

Mae aelodaeth o UNSAIN yn cynnig cymorth cyfreithiol, cynrychiolaeth, hyfforddiant, cymorth llesiant ariannol, disgowntiau a gwasanaethau unigryw. P'un a ydych chi'n wynebu heriau yn y gwaith neu'n cynllunio ar gyfer y dyfodol, drwy fod yn aelod gallwch ddibynnu ar UNSAIN am arweiniad a chymorth.

Dewch i'n stondin i ddysgu mwy am ein gwaith, buddion i aelodau a sut gallwn greu newid cadarnhaol ar y cyd ar draws ein gweithleoedd a'n cymunedau.