Full Name
Elizabeth Grant
Job Title
Dirprwy Brofost-farshal (Troseddau Difrifol)
Organisation
Gweinyddiaeth Amddiffyn y DU
Speaker Bio
Ymunodd Lizzie â'r Llynges Frenhinol yn 2002 fel Mecanydd Peirianneg Forol, gan wasanaethu ledled y byd cyn trosglwyddo i Heddlu'r Llynges Frenhinol yn 2005. Enillodd brofiad helaeth o blismona gweithredol ar draws diogelwch morwrol a gweithrediadau milwrol cyn arbenigo mewn ymchwiliadau, gan gymhwyso fel cyfwelydd uwch, ymchwilydd troseddau rhywiol ac ymchwilydd safleoedd trosedd. Wedi'i chomisiynu yn 2012, daliodd amrywiaeth o swyddi arwain ym meysydd plismona, cudd-wybodaeth, ymchwiliadau a gweithrediadau, gan gynnwys Dirprwy Bennaeth y Gwasanaeth ar gyfer Ymchwiliadau Hanesyddol yr Heddlu, Cynghorydd Heddlu a Diogelwch i Lywodraeth Ynysoedd Cayman, a Dirprwy a Phrofost-farsial (y Llynges). Erbyn hyn, mae’n gwasanaethu fel Dirprwy Brofost-farsial (Troseddau Difrifol) o fewn Rheolaeth Amddiffyn Troseddau Difrifol, gan arwain cyfraniad yr Heddlu Gwasanaeth at ymchwilio i droseddau difrifol ar draws y maes Amddiffyn wrth gefnogi’r gwaith o drawsnewid a diwygio sefydliadol ehangach.
Speaking At