Full Name
Cath Pendleton
Job Title
Hyfforddwr Llesiant
Organisation
GAVO
Speaker Bio
Denodd Cath, sydd hefyd yn cael ei hadnabod fel Môr-forwyn Merthyr, sylw cenedlaethol pan ddangosodd y BBC ei hymdrech i nofio milltir yn Antarctica, mewn rhaglen ddogfennol am bobl gyffredin yn cyflawni pethau anghyffredin.

Dechreuodd Cath nofio yn y gaeaf ac mewn iâ yn 2015 a chafodd ei swyno ar unwaith, gan ei ddisgrifio fel ei “botwm ailosod”.

Mae hi wedi cwblhau nifer o nofiadau pell, gan gynnwys y Sianel, wedi cynrychioli Tîm Prydain ym Mhencampwriaethau Nofio Iâ y Byd, ac wedi cwblhau 10 Milltir Iâ swyddogol. Yn 2020, hi oedd y person cyntaf i gwblhau Milltir Iâ y tu fewn i Gylch Pegynol yr Antarctig.

A hithau’n anturus bob amser, mae Cath yn mwynhau ysbrydoli eraill i roi cynnig ar bethau newydd, ac mae hi wrth ei bodd yn nofio, yn deifio’n rhydd, bod yn fôr-forwyn ac yn hwylio.
Cath Pendleton