Mae Heddlu De Cymru yn falch iawn o gynnal Cynhadledd Menywod mewn Uwch Swyddi Plismona #SWiP26 eleni, gyda chefnogaeth Heddlu Dyfed-Powys, Heddlu Gwent a Heddlu Gogledd Cymru.
Thema'r gynhadledd yw Ysbrydoli Arweinwyr i Ddatblygu a'r nod yw dod ag arweinwyr, darpar arweinwyr a chynghreiriaid ynghyd o ledled y teulu plismona a thu hwnt er mwyn rhannu profiadau, herio canfyddiadau ac ysbrydoli gweithredu. Drwy brif siaradwyr gafaelgar, trafodaethau panel sy’n ysgogi meddwl, a sesiynau datblygu ymarferol, bydd cynadleddwyr yn archwilio sut y gallwn feithrin amgylcheddau lle mae unigolion yn cael eu grymuso i ddatblygu, cyfrannu ac arwain gyda hyder.
Amcanion y gynhadledd yw:
- Darparu cynhadledd dri diwrnod ysgogol ac o safon uchel ar gyfer uwch-arweinwyr benywaidd mewn plismona yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
- Darparu lle diogel i uwch-arweinwyr benywaidd mewn plismona gwrdd i drafod yr heriau a'r cyfleoedd y mae plismona yn y Deyrnas Unedig yn eu hwynebu nawr, ac yn y dyfodol.
- Bod yn gyfle i gynadleddwyr drafod a dysgu am bynciau sy'n berthnasol iddynt, er mwyn eu cefnogi yn bersonol ac yn broffesiynol.
- Cefnogi, annog ac ysbrydoli datblygiad uwch-arweinwyr benywaidd y dyfodol.
- Darparu cyfleoedd i gwrdd a rhwydweithio.
Ymunwch â ni wrth i ni ddathlu arweinyddiaeth sy'n ysbrydoli, yn cefnogi ac yn datblygu pobl eraill, gan greu diwylliant lle mae pawb yn cael cyfle i lwyddo a lle gall y genhedlaeth nesaf o arweinwyr ffynnu.
Ar y wefan, bydd cynadleddwyr yn dod o hyd i'r holl wybodaeth berthnasol am y gynhadledd, ynghyd â chyfleoedd i ofyn cwestiynau ac ymgysylltu â'r digwyddiad. Byddwn yn cyhoeddi manylion llawn am y siaradwyr, y cyflwynwyr a'r gweithdai pan gânt eu cadarnhau, gallwch ddarllen y wybodaeth ddiweddaraf ar LinkedIn.
Edrychwn ymlaen yn fawr iawn at groesawu cynadleddwyr i dde Cymru am gynhadledd a fydd heb os yn ysbrydoli ac yn creu effaith.