HeForShe yw mudiad byd-eang y Cenhedloedd Unedig dros gydraddoldeb rhywedd ac mae'n wahoddiad i ddynion a phobl o bob rhyw sefyll mewn undod â menywod i greu pwysau beiddgar, gweladwy ac unedig am gydraddoldeb rhywedd. Mae HeForShe yn dwyn ynghyd yr arweinwyr mwyaf uchelgeisiol o bob cwr o'r llywodraeth, byd busnes, y sector nid-er-elw a'r byd academaidd i symud yn gyflymach tuag at gydraddoldeb rhywedd. 

Mae pob heddlu yn y Deyrnas Unedig wedi ymrwymo i HeForShe. Ar y cyd, eu nod yw mynd i'r afael ag anghydbwysedd ar sail rhywedd ar draws gweithlu'r heddlu ynghyd â nodi a mynd i'r afael â'r anghydraddoldebau rhywedd yn niwylliant yr heddlu. Mae rhwydweithiau o Gynghreiriaid HeForShe yn bwrw ymlaen â'r gwaith hwn ar draws byd plismona.

Caiff cynnydd ar draws plismona yn y Deyrnas Unedig ei rannu mewn adroddiad blynyddol. Mae'r adroddiad diweddaraf, Gender Equality in UK Policing, yn cynnwys data cenedlaethol ac yn tynnu sylw at arferion da ar draws byd plismona.