Full Name
UD Frankie Westoby
Job Title
Uwch-hyfforddwr Arweinyddiaeth
Organisation
Coleg Plismona
Speaker Bio
Mae Frankie yn Dditectif Brif Uwch-arolygydd gyda thros 30 mlynedd o brofiad plismona mewn rolau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Gan ddechrau ei gyrfa gyda Heddlu Manceinion Fwyaf cyn ymuno â’r Heddlu Metropolitanaidd ym 1997, cymhwysodd fel Ditectif ac arbenigodd mewn diogelu, cuddwybodaeth ac ymchwiliadau mawr. Mae hi wedi dal swyddi arweinyddiaeth yn cefnogi plismona iechyd meddwl cenedlaethol, yn cydlynu ymatebion i ddigwyddiadau terfysgol a digwyddiadau mawr, ac yn arwain timau fforensig digidol, seiberdroseddu, a thwyll difrifol. A hithau’n Negodwr Gwystlon ac Argyfwng profiadol a Chomander Trefn Gyhoeddus Arian, mae Frankie ar secondiad i Goleg yr Heddlu ar hyn o bryd, lle mae hi'n arwain datblygiad uwch-arweinyddiaeth ar gyfer swyddogion a staff ledled y DU ac yn rhyngwladol.
UD Frankie Westoby