Full Name
Ruth Dodsworth OBE
Speaker Bio
Mae Ruth yn ddarlledwraig a newyddiadurwraig Brydeinig flaenllaw, sy'n fwyaf adnabyddus am ei gwaith gydag ITV Cymru Wales, yn ogystal â'i hymddangosiadau rheolaidd ar ITV News a Good Morning Britain. Ers ymuno ag ITV ym 1996, mae hi wedi dod yn un o ddarlledwyr mwyaf adnabyddus Cymru, gan gyflwyno rhaglenni newyddion, tywydd a ffordd o fyw, gan gynnwys The Ferret, Grassroots a Coast and Country – rhaglen a enwebwyd am wobr BAFTA.

Yn y blynyddoedd diweddar, mae Ruth wedi defnyddio ei phrofiad personol o gam-drin domestig a rheolaeth drwy orfodaeth i godi ymwybyddiaeth a chefnogi eraill. Mae ei rhaglenni dogfennol, Controlled By My Partner: The Hidden Abuse a Nowhere to Run, wedi tynnu sylw at realiti cam-drin emosiynol ac ariannol, sy'n aml yn gudd.

Mae hi bellach yn gweithio gyda'r heddlu ac asiantaethau partner i wella dealltwriaeth o reolaeth drwy orfodaeth, ac i helpu gweithwyr proffesiynol i adnabod yr arwyddion rhybudd sy'n gysylltiedig â hi. Yn 2025, dyfarnwyd OBE i Ruth i gydnabod ei dewrder, ei gwaith eirioli a'i chyfraniad at gefnogi goroeswyr.
Ruth Dodsworth OBE