Pam Dod yn un o Bartneriaid Cynhadledd Menywod mewn Swyddi Plismona Uwch 2026?

Mae Cynhadledd Menywod mewn Swyddi Plismona Uwch 2026 yn cynnig cyfle unigryw i sefydliadau gysylltu ag uwch-wneuthurwyr penderfyniadau, arweinwyr dylanwadol, darpar arweinwyr a chynghreiriaid o bob rhan o'r teulu plismona a thu hwnt. Bydd y gynhadledd genedlaethol fawreddog hon, a gynhelir gan Heddlu De Cymru, gyda chefnogaeth Heddlu Dyfed-Powys, Heddlu Gwent a Heddlu Gogledd Cymru, yn dod â'r rhai sy'n llywio dyfodol plismona ynghyd.

Drwy noddi neu arddangos yng Nghynhadledd Menywod mewn Swyddi Plismona Uwch 2026, bydd eich sefydliad yn dangos ei ymrwymiad i gefnogi arweinyddiaeth gynhwysol, datblygiad proffesiynol a datblygiad menywod ym maes plismona. Mae alinio eich brand â thema'r gynhadledd, Ysbrydoli Arweinwyr i Dyfu, yn gosod eich sefydliad ochr yn ochr â mudiad pwerus sy'n ymroddedig i ddatblygu arweinwyr hyderus a galluog a fydd yn dylanwadu ar ddyfodol plismona ledled y DU ac yn rhyngwladol.

Mae'r gynhadledd yn darparu mynediad uniongyrchol at gynulleidfa ymgysylltiedig iawn o arweinwyr a gwneuthurwyr penderfyniadau uwch ac ysbrydoledig o bob cwr o'r DU ac yn rhyngwladol, gan greu cyfleoedd gwerthfawr i arddangos eich cynhyrchion, eich gwasanaethau a'ch arbenigedd. P'un a ydych yn ystyried datblygu ymwybyddiaeth o'ch brand, creu partneriaethau newydd, cryfhau cydberthnasau presennol neu ddysgu am anghenion datblygedig y sector plismona, mae Cynhadledd Menywod mewn Swyddi Plismona Uwch 2026 yn cynnig llwyfan rhagorol i gyflawni eich amcanion.

Bydd arddangoswyr yn elwa ar gyfleoedd rhwydweithio pwrpasol drwy gydol y digwyddiad, a fydd yn eu galluogi i gynnal sgyrsiau ystyrlon â chynadleddwyr mewn amgylchedd sydd wedi'i gynllunio i annog cydweithio a rhannu gwybodaeth. Bydd noddwyr yn sicrhau lefelau uwch o welededd drwy gynnyrch brandio'r gynhadledd, cyfleoedd hyrwyddo a thrwy ymwneud â digwyddiad sy'n hyrwyddo arweinyddiaeth, arloesedd a newid sefydliadol cadarnhaol.

Drwy weithio mewn partneriaeth â Chynhadledd Menywod mewn Swyddi Plismona Uwch 2026, rydych yn buddsoddi ym mhroffil eich sefydliad ac yn cefnogi digwyddiad sy'n grymuso arweinwyr presennol a darpar arweinwyr, yn annog sgyrsiau agored am yr heriau y mae'r maes plismona modern yn eu hwynebu a'r cyfleoedd sydd ar gael, ac yn helpu i greu diwylliant lle y caiff pawb gyfle i dyfu, cyfrannu a llwyddo.

Rydym yn eich gwahodd i ymuno â ni yn ne Cymru ar gyfer cynhadledd ysbrydoledig, effeithiol a dylanwadol, ac i chwarae rhan allweddol wrth gefnogi'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr ym maes plismona.

Mae nifer o gyfleoedd partneriaeth ar gael, cliciwch ar y botwm isod i weld y cyfleoedd hyn.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu os hoffech drafod dod yn un o bartneriaid y digwyddiad neu becyn pwrpasol, anfonwch e-bost i atlanta@cjsukmanagement.co.uk