Isod ceir Cwestiynau Cyffredin i'ch helpu gyda'r gynhadledd.

Mae mynediad heb risiau i bob maes allanol yn Stadiwm Principality, ac mae llwybrau mynediad hygyrch ar gael ym mhob giât. Y tu mewn, ceir mynediad heb risiau i bob rhan o'r safle, gyda lifft ar gael ar bob lefel. Mae Lefel 5 yn cynnwys Ystafelloedd Lletygarwch cwbl hygyrch a phedwar toiled hygyrch ar gyfer y neillryw, gyda chyfleusterau hygyrch ychwanegol ar gyfer y neillryw ar Lefelau 3, 4 a 6. Mae'r stadiwm hefyd yn cynnig un cyfleuster Changing Places.

Darllenwch fanylion hygyrchedd y safle yma.

Wrth gofrestru, byddwch yn gallu dewis sut i dalu.

Rydym yn derbyn y dulliau talu canlynol:

  • BACS (yn erbyn anfoneb): Nodwch na allwn gyflwyno anfonebau i sefydliadau'r sector cyhoeddus heb rif archeb brynu, y mae'n rhaid ei ddarparu wrth drefnu eich lle. Rhaid gwneud rhifau archeb brynu yn daladwy i CJS (UK Management) Limited.
  • Taliad â cherdyn credyd: Gallwch ddewis talu â cherdyn credyd/debyd wrth gwblhau'r broses trefnu lle.

Os ydych yn cofrestru fel cynrychiolydd o'r sector cyhoeddus ac yn dymuno talu yn erbyn anfoneb, rhaid i chi ddarparu rhif archeb brynu.

Bydd yn ofynnol i'ch sefydliad ddarparu archeb brynu i sicrhau y gellir gwneud taliad. Dylech gadarnhau â'ch rheolwr llinell ynghylch sut i godi rhif archeb brynu yn eich sefydliad. Rhaid gwneud rhifau archeb brynu yn daladwy i CJS (UK Management) Limited.

Os nad ydych yn siŵr a oes angen archeb brynu arnoch, neu os byddwch yn cael unrhyw anhawster cael gafael ar un, cysylltwch â CJS ar 0333 222 4061.

Anfonir y cyfarwyddiadau ymuno â manylion pellach am y gynhadledd yn ystod y bythefnos cyn y gynhadledd drwy neges e-bost awtomataidd.

Cadwch lygad ar eich ffolderi sbam/sothach os nad ydych wedi cael eich neges e-bost. Os nad ydych yn cael y neges e-bost hon, cysylltwch â register@cjsevents.co.uk.

Rydym yn falch o gyhoeddi bod y gynhadledd hon yn cynnig Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) Achrededig. Os hoffech gael y rhain, anfonwch neges e-bost i register@cjsevents.co.uk ar ôl y digwyddiad, a fydd yn dilysu eich presenoldeb ac yn trefnu bod tystysgrif yn cael ei hanfon atoch. I gael gwybodaeth bellach am DPP, ewch i www.cpduk.co.uk.

Trên – Mae Gorsaf Caerdydd Canolog tua 6 munud ar droed o'r stadiwm neu 11 munud mewn tacsi. Mae Gorsaf Caerdydd Heol y Frenhines tua 15 munud ar droed o'r stadiwm neu 10 munud mewn tacsi. Mae taith fws gwennol fer yn cysylltu'r Maes Awyr â'r orsaf drenau yn y Rhws, sy'n daith 30 munud ar y trên i Orsaf Caerdydd Canolog. Gellir llogi beiciau yng ngorsaf drenau Caerdydd Canolog neu o amgylch y ddinas.

 

Bws – Mae Cyfnewidfa Fysiau Caerdydd tua 5 munud ar droed o'r stadiwm neu 7 munud mewn tacsi. Mae gwybodaeth am fysiau yn y ddinas ar gael yma.

 

Car – Nid oes maes parcio ar y safle felly rydym yn argymell y dylech ddefnyddio'r system parcio a theithio. Fel arall, mae meysydd parcio amrywiol ar gael ledled y ddinas. NCP Stadiwm Caerdydd ac NCP Heol y Porth Caerdydd yw'r meysydd parcio agosaf.

 

Os byddwch am newid eich manylion cofrestru, neu gyfnewid, gellir gwneud hyn heb unrhyw ffi ychwanegol ar unrhyw adeg cyn y gynhadledd (gan gynnwys yn ystod y gynhadledd).

Gallwch newid y manylion drwy fewngofnodi i'r cyfrif neu fel arall, gallwch gysylltu â CJS yn register@cjsevents.co.uk neu ar 0333 222 4061.

Noder: Codir ffi weinyddu o £40 os byddwch yn canslo ar 30 Hydref 2026 neu cyn hynny. Ni fyddwch yn cael unrhyw ad-daliad os byddwch yn canslo ar ôl y dyddiad hwn a bydd angen i chi dalu'r HOLL gostau. Gellir gwneud cyfnewidiadau ar unrhyw adeg.

Drwy gwblhau'r broses gofrestru, rydych yn nodi eich bod yn cytuno â'n telerau ac amodau.

Noder bod rhaid i chi dalu'r holl ffioedd yn llawn cyn i chi fynychu'r gynhadledd.

Wrth gofrestru ar gyfer y gynhadledd hon, rydych yn ymrwymo i dalu am y lle(oedd) yn unol â'r telerau ac amodau hyn. Mae CJS Events yn cadw'r hawl i ganslo eich lle os nad ydych wedi rhoi rhif archeb brynu dilys na thalu â cherdyn wrth drefnu eich lle.

Polisi Ad-daliad: Codir ffi weinyddu o £40 os byddwch yn canslo ar 30 Hydref 2026 neu cyn hynny. Ni fyddwch yn cael unrhyw ad-daliad os byddwch yn canslo ar ôl y dyddiad hwn a bydd angen i chi dalu'r HOLL gostau. Bydd achosion o gyfnewid y caiff CJS wybod amdanynt cyn y digwyddiad yn cael eu derbyn heb unrhyw ffi ychwanegol.

Ad-daliadau a COVID-19: Os byddwch yn cael COVID-19 neu'n dioddef symptomau, neu os na fyddwch yn gallu mynd i'r gynhadledd oherwydd amgylchiadau personol, gallwn gynnig eich lle i rywun arall, ond ni fydd unrhyw ad-daliad yn cael ei wneud yn y naill achos na'r llall.

Wrth gofrestru ar gyfer y gynhadledd hon, nodwch eich bod yn cydsynio i'ch e-bost a'ch gwybodaeth bersonol gael eu defnyddio gan CJS, Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu a'u partneriaid ategol i gyfathrebu â chi ynghylch y digwyddiad hwn a'u gwasanaethau eraill.

Drwy ganiatáu i bartner ategol gael eich gwybodaeth gyswllt, rydych yn cytuno i gael gohebiaeth gan yr endid hwnnw. Byddwch yn ddarostyngedig i'w bolisi gohebiaeth a phreifatrwydd a rhaid i chi optio allan drwy gysylltu ag ef yn uniongyrchol.

I weld ein telerau ac amodau llawn, cliciwch yma.

Os na allwch ddod o hyd i'r ateb rydych chi'n chwilio amdano ar y dudalen neu'r wefan hon, cysylltwch â CJS Events yn register@cjsevents.co.uk neu ar 0333 222 4061.