Mae Niche Technology yn arwain y ffordd yn fyd-eang o ran rheoli cofnodion yr heddlu, ac mae asiantaethau ar draws tri chyfandir a'r ddau hemisffer yn ymddiried ynddo. Mae plismona yn fwy cymhleth nag erioed. Ond eto, mae swyddogion ac ymchwilwyr yn treulio gormod o amser wrth eu desgiau yn darllen gwybodaeth, yn llunio adroddiadau, ac yn sicrhau bod pob manylyn yn cael ei gofnodi. Dim ond un ffocws sydd gennym yn Niche: plismona. Ac oherwydd y maes ffocws hwnnw, mae NicheRMS365 yn llawer mwy na gwasanaeth rheoli cofnodion yn unig. Dyma wraidd unrhyw ecosystem dechnoleg a ddefnyddir gan yr heddlu sy’n cysylltu gwybodaeth, llifau gwaith, a'r offer mae swyddogion yn dibynnu arnynt bob dydd.

Mae Deallusrwydd Artiffisial yn rhan annatod o’r gwraidd hwnnw erbyn hyn. Nid ychwanegyn na modiwl ar wahân ydyw - mae wedi'i ymgorffori'n uniongyrchol mewn llifau gwaith presennol. Mae NicheRMS365 yn helpu i droi gwybodaeth yn gamau gweithredu yn gynt, gan leihau’r baich gweinyddol a rhoi mwy o gyfle i swyddogion dreulio amser yn eu cymunedau. Diolch i’n cwsmeriaid, Niche yw’r darparwr System Rheoli Cofnodion mwyaf poblogaidd ym mhedwar ban y byd, gyda mwy o asiantaethau heddlu mawr yn defnyddio NicheRMS365 na'r wyth cystadleuydd mwyaf ar y cyd. NicheRMS365. Wedi'i adeiladu ar gyfer plismona. Wedi'i adeiladu ar gyfer yr hyn sy’n dod nesaf. Un sesiwn arddangos ac fe welwch chi pam.