Mae Hugh James yn gwmni cyfreithiol cenedlaethol blaenllaw sy’n cynnig ystod eang o wasanaethau cyfreithiol. Rydym yn helpu pobl drwy gyfnodau anodd, gan gynnwys swyddogion heddlu a’r unigolion a’r teuluoedd y maen nhw’n gweithio gyda nhw.

Ers blynyddoedd lawer, rydym yn mynd i Gynadleddau Cyswllt â Theuluoedd Cenedlaethol, gan gynnwys Cynhadledd yr Uwch-swyddogion Ymchwilio yn Leeds. Mae’n bleser gennym fod yn rhan o Gynhadledd Menywod mewn Swyddi Plismona Uwch, sy’n cydnabod cyfraniad menywod at fyd plismona a phwysigrwydd arweinyddiaeth gadarn.

Rydym yn gwerthfawrogi’r cyfle i gwrdd â swyddogion, cael clywed am yr heriau y maen nhw’n eu hwynebu, a meithrin perthnasoedd parhaol. Ein nod yw bod yn bartner dibynadwy, hawdd mynd ato a all wneud gwir wahaniaeth pan fo angen arweiniad cyfreithiol neu gymorth ymarferol.