Mae Maria Fox yn gweithio gydag arweinwyr gweithredol, timau, menywod sy'n llywio trawsnewidiadau sylweddol sy'n ymwneud â bywyd ac iechyd, a gweithwyr proffesiynol mewn amgylcheddau lle mae llawer o straen, gan eu helpu i gyflawni trawsnewid cynaliadwy a'r perfformiad uchaf. Mae ei dull yn cyfuno technegau arweinyddiaeth a pherfformiad â methodolegau ardystiedig gan gynnwys This Naked Mind, hyfforddi metabolig Lumen, dulliau olrhain biometrig gwisgadwy (Garmin ac Oura), cyfarwyddyd ffitrwydd, a 30 mlynedd ar y rheng flaen mewn gyrfa arweinyddiaeth.
Gan dynnu ar 30 mlynedd mewn rôl uwch-arweinydd ym myd plismona, mae Maria yn deall gofynion perfformio o dan bwysau a chanlyniadau straen os nad yw'n cael ei rheoli. Yn ystod blynyddoedd olaf ei gyrfa ym myd plismona, bu i ffwrdd o'r gwaith am chwe mis yn sgil straen ddifrifol a arweiniodd at drobwynt allweddol yn ei bywyd. Fe ymdrochodd yng ngwyddor perfformiad dynol, gan ganolbwyntio ar faeth, iechyd metabolig, cwsg, straen, amrywioldeb cyfradd curiad y galon, a meddylfryd.
O ganlyniad, collodd Maria 50 pwys mewn saith mis, gwnaeth wrthdroi cyflwr yn ei chalon, trawsnewid ei ffitrwydd a chael dyrchafiad i fod yn Brif Uwch-arolygydd. Gwnaeth y daith honno droi'n llyfr, yn ddull, ac yn llwyfan lle mae hi bellach yn helpu pobl eraill i ffynnu yn eu bywydau personol a phroffesiynol.