Ruth Dodsworth OBE
Mae Ruth Dodsworth yn ddarlledwr ac yn newyddiadurwr amlwg ym Mhrydain, a chaiff ei hadnabod orau am ei gwaith ar ITV Cymru Wales ac mae hefyd yn cyflwyno'n rheolaidd ar raglenni newyddion cenedlaethol ITV a Good Morning Britain. Ers ymuno â'r rhwydwaith yn 1996, mae wedi dod yn un o wynebau amlycaf Cymru, gan gyflwyno amrywiaeth eang o raglenni yn cynnwys The Ferret, Grassroots a Coast and Country a gafodd ei henwebu am wobr BAFTA. Er y caiff ei hadnabod fwyaf fel cyflwynydd tywydd, mae ei gyrfa wedi cwmpasu mwy na 25 mlynedd o waith gohebu newyddion a darllediadau ffordd o fyw.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Ruth wedi troi ei phrofiadau preifat yn genhadaeth gyhoeddus bwerus. Ar ôl dod â'i phriodas i ben ar ôl 20 mlynedd oherwydd cam-drin domestig a rheolaeth drwy orfodaeth eithriadol, a arweiniodd at garcharu ei chyn-ŵr yn 2021, dewisodd siarad am ei phrofiad i helpu eraill. Mae ei rhaglenni dogfen, Controlled By My Partner:The Hidden Abuse a Nowhere to Run, yn tynnu sylw hollbwysig at agweddau ar droseddau domestig nad ydynt yn gorfforol. Mae bellach yn gweithio'n agos gyda'r heddlu ac asiantaethau eraill i hyfforddi swyddogion i nodi arwyddion cynnil rheolaeth emosiynol ac ariannol.
Er mwyn cydnabod ei dewrder rhyfeddol a'i gwaith eirioli diflino, cafodd ei gwobrwyo ag OBE (Swyddog Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig) yn 2025. Mae Ruth yn parhau i ddefnyddio ei statws i hyrwyddo goroeswyr, gan droi ei goroesiad personol yn llygedyn o obaith i ddioddefwyr cam-drin domestig ledled y DU.

Ruth Dodsworth is a prominent British broadcaster and journalist, best known as a mainstay of ITV Cymru Wales and also regularly presents on ITN news nationally and Good Morning Britain. Since joining the network in 1996, she has become one of Wales’ most recognizable faces, presenting a diverse range of programming including The Ferret, Grassroots, and the BAFTA-nominated Coast and Country. While she is most widely celebrated as a weather presenter, her career spans over 25 years of news reporting and lifestyle broadcasting.
In recent years, Ruth has transformed her private ordeal into a powerful public mission. After ending a 20-year marriage marked by extreme domestic abuse and coercive control—which led to her ex-husband’s imprisonment in 2021—she chose to speak out to help others. Her documentaries, Controlled By My Partner:The Hidden Abuse and Nowhere to Run, shed vital light on the non-physical aspects of domestic crimes. She now works closely with the police and other agencies to train officers in identifying the subtle signs of emotional and financial control.
In recognition of her extraordinary bravery and tireless advocacy, she was awarded an OBE (Officer of the Order of the British Empire) in 2025. Ruth continues to use her platform to champion survivors, turning her personal survival into a beacon of hope for victims of domestic abuse across the UK.